Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7
Tachwedd 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13556
------
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.35
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau - i'w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig
I'w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia - Gohiriwyd
Gohiriwyd yr eitem hon
5 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cymorth i Aros
Dechreuodd yr eitem am 14.41
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Adroddiad Blynyddol 2022-23
Dechreuodd yr eitem am 15.01
7 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Parthau Buddsoddi
Dechreuodd yr eitem am 15.49
8 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cydnabod y cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru - Gohiriwyd
Gohiriwyd yr eitem hon
9 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Tata Steel
Dechreuodd yr eitem am 16.27
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl: Coffa
Dechreuodd yr eitem am 17.17
NNDM8393 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.
3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.
Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel.
Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil.
Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NNDM8393 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.
3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.
4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel.
5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil.
Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
11 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.15
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 8 Tachwedd 2023